Neidio at y cynnwys
dewislen

Rydych ar fin gadael

Byddwn yn eich ailgyfeirio i HelpwrArian. Ni fydd eich data’n cael ei gadw. Os byddwch yn gadael y gwasanaeth nawr, bydd angen i chi fewngofnodi eto gan ddefnyddio GOV.UK One Login i weld eich pensiynau.

Ydych chi’n siŵr eich bod am adael?

Rhowch gynnig ar Ddangosfwrdd Pensiynau HelpwrArian

Yn ôl

Eich data a'ch preifatrwydd

Rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth i ddod o hyd i'ch pensiynau, ond nid ydym yn ei storio. Dim ond codau gyda ffugenw yr ydym yn eu dal i redeg y gwasanaeth.

Y rhain yw:

  • dynodwyr ar gyfer eich caniatâd

  • cod unigryw sy'n eich cynrychioli chi

  • dynodwyr ar gyfer unrhyw bensiynau sy'n cael eu cyfateb i chi.

Sut rydym yn defnyddio eich data ymchwil

Byddwn yn storio eich data ymchwil yn ddiogel. Dim ond ymchwilwyr awdurdodedig fydd yn gallu cael mynediad ato.

Rydym yn gwneud yn ddienw yr holl ganfyddiadau ymchwil rydyn ni'n eu defnyddio mewn cyflwyniadau ac adroddiadau. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw un yn gweld eich manylion nac yn gwybod bod y canfyddiadau wedi dod oddi wrthych chi.

Efallai y byddwn yn defnyddio teclynnau deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i ddadansoddi a chrynhoi adborth. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei rannu ag unrhyw teclyn AI, a bydd ein tîm ymchwil yn adolygu unrhyw allbynnau cyn eu defnyddio.

  • Rydym yn cadw data ymchwil am hyd at 2 flynedd, yna rydyn ni'n ei ddileu neu'n ei wneud yn ddienw.

  • Rydym yn dilyn GDPR a'r holl gyfreithiau diogelu data perthnasol eraill.

  • Gallwch roi'r gorau i gymryd rhan ar unrhyw adeg. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw wasanaethau neu gefnogaeth a dderbyniwch gennym ni.

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd (opens in a new window) (mewn Saesneg) am ragor o wybodaeth.

Tynnu eich data ymchwil

Gallwch ofyn i dynnu eich data cyfranogiad ymchwil yn ôl trwy gysylltu â dpo@maps.org.uk.

  • Byddwn yn dileu data eich panel ymchwil ac unrhyw ddata cyfranogiad ymchwil nad yw wedi'i wneud yn ddienw eto.

  • Bydd data dan ffugenw yn y gwasanaeth Find yn parhau i gael ei storio nes ei fod yn cael ei ddileu'n awtomatig ar ôl 5 blynedd o anweithgarwch.